Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 27 Ebrill 2022

Amser y cyfarfod: 13.30
 


66(v4)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

 

Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Gareth Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am eithrio staff ategol cartrefi gofal o daliadau bonws y gweithwyr cartrefi gofal a'r gweithwyr gofal cartref?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Twristiaeth

(60 munud)

NDM7990 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn dathlu cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf i dwristiaid.

2. Yn gresynu at effaith ddinistriol cyfyngiadau COVID ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

3. Yn credu y bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i'r system ardrethu annomestig yn tanseilio llawer o fusnesau llety gwyliau.

4. Yn nodi data Cynghrair Twristiaeth Cymru sy'n dangos na fydd mwyafrif helaeth o fusnesau'n gallu bodloni'r meini prawf i fod yn gymwys fel busnes llety gwyliau.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) roi'r gorau i gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru;

b) cydnabod bod y rhan fwyaf o'r ymatebion i'w hymgynghoriad yn gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i ardrethi annomestig ar gyfer llety gwyliau;

c) rhoi'r gorau i gynlluniau i ymestyn nifer y diwrnodau y mae'n rhaid gosod eiddo er mwyn bodloni'r gofyniad ardrethu annomestig.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: 

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) 

Dileupopetha rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd: 

1.    Yn cydnabod cryfder twristiaeth Cymru, sydd o’r radd flaenaf, ac yn croesawu’r cymorth sylweddol a roddwyd i’r diwydiant twristiaeth a gweithredwyr gan Lywodraeth Cymru drwy gydol pandemig COVID. 

2.    Yn cydnabod diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o dwristiaeth gynaliadwy: “Twristiaeth sy’n ystyried yn llawn ei heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn awr ac yn y dyfodol, gan ddiwallu anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a’r cymunedau sy’n croesawu ymwelwyr”. 

3.    Yn cydnabod bod ardollau twristiaeth yn gyffredin ar draws y byd, a bod yr incwm ohonynt yn cael ei ddefnyddio er lles cymunedau lleol, twristiaid a busnesau, sydd wedyn yn helpu i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus. 

4.    Yn croesawu’r ymrwymiad i gyflwyno ardollau twristiaeth lleol a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i godi ardoll dwristiaeth os byddant yn dewis gwneud hynny. 

5.    Yn nodi’r bwriad i gynnal ymgynghoriad sylweddol yn yr hydref yn 2022 fel rhan o broses ofalus o ddatblygu cynigion ar gyfer ardoll, a fydd yn cynnwys cymunedau, busnesau a gweithredwyr, ac yn nodi ymhellach y bydd y broses o drosi’r cynigion hynny yn ddeddfwriaeth yn destun craffu manwl a chymeradwyaeth gan y Senedd. 

6.    Yn croesawu penderfyniad y Senedd ar 22 Mawrth i gymeradwyo Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â phroblemau ail gartrefi a thai anfforddiadwy sy’n wynebu llawer o gymunedau yng Nghymru ac i fynd i’r afael â’r argyfwng tai. 

7.    Yn croesawu’r ymrwymiad i weithredu ar yr ymgyngoriadau eang sydd wedi’u cynnal hyd yma i sicrhau bod trethi lleol yn gwahaniaethu rhwng llety hunanarlwyo go iawn ac eiddo domestig ac yn nodi bod ymgynghoriad technegol ar reoliadau drafft i ddiwygio’r meini prawf gosod eiddo ar gyfer llety hunanarlwyo, a gynhaliwyd fel rhan o’r gwaith tuag at gyflawni’r ymrwymiad hwn, wedi dod i ben ar 12 Ebrill; y mae’r ymatebion iddo wrthi’n cael eu dadansoddi. 

Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022

</AI6>

<AI7>

6       Dadl Plaid Cymru - Yr argyfwng costau byw a thai

(60 munud)

NDM7989 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod yr argyfwng costau byw sy'n effeithio ar aelwydydd ledled Cymru yn cynyddu'r risg o ddigartrefedd.

2. Yn nodi bod gwerthoedd rhentu cyfartalog yng Nghymru wedi cynyddu i £726 y mis ym mis Mawrth 2022, i fyny 7.2 y cant o'i gymharu â mis Mawrth 2021

3. Yn nodi, er bod y lwfans tai lleol wedi'i gynllunio i gwmpasu'r 30 y cant isaf o aelwydydd yng Nghymru, mai dim ond 3.8 y cant o aelwydydd sy'n cael eu cwmpasu ganddo mewn gwirionedd.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio'r lwfans tai lleol i sicrhau ei fod yn gweithio i Gymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried argymhellion map ffordd End Youth Homelessness Cymru.

A Roadmap to Ending Youth Homelessness in Wales - End Youth Homelessness Cymru (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: 

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) 

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: 

Yn cydnabod bod mwy o gartrefi gwag nag ail gartrefi yng Nghymru tan yn ddiweddar. 

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) 

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny: 

Yn cydnabod y rôl bwysig y mae landlordiaid yn ei chwarae wrth ddarparu llety yng Nghymru. 

Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) 

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le: 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

a. ailgyflwyno hawl i brynu ddiwygiedig; 

b. datblygu cynllun i Gymru gyfan i ddarparu cymhellion i sicrhau bod mwy o gartrefi gwag y mae angen eu hadnewyddu yn cael eu defnyddio unwaith eto; 

c. ymateb i argymhellionmap ffordd End Youth Homelessness Cymru; 

d. diystyru cyflwyno rheolaethau rhent yng Nghymru.

</AI7>

<AI8>

7       Cyfnod pleidleisio

 

</AI8>

<AI9>

8       Dadl Fer

(30 munud)

NDM7988 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Does unman yn debyg i gartref: tai amlfeddiannaeth ac ymrymuso cymunedol

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Mai 2022

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>